Dros 5,100 o barseli bwyd wedi eu rhoi i bobl sy’n wynebu argyfwng ar draws y DU bob dydd yn ystod y chwe mis diwethaf, meddai Ymddiriedolaeth Trussell
Mae ffigurau newydd yn datgelu bod dros 5,100 o barseli bwyd mewn argyfwng wedi cael eu darparu i bobl bob dydd o fis Ebrill hyd at fis Medi eleni ar gyfartaledd, gan fanciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell. Mae hynny’n dri pharsel o leiaf bob munud ac mae’n gynnydd o 11% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019, wrth i’r angen am fwyd mewn argyfwng barhau ymhell uwchlaw’r lefelau cyn y pandemig.
Yn frawychus, teuluoedd â phlant sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf, gyda pharseli bwyd ar gyfer plant yn cynyddu ar ddwywaith y gyfradd ar gyfer oedolion, o’i gymharu â’r lefelau cyn y pandemig. Rhwng Ebrill a Medi 2021, darparwyd bron 2,000 o barseli ar gyfer plant bob dydd ar gyfartaledd, o’i gymharu â bron 1,700 yn 2019.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.