Effaith Tlodi ar Fabanod, Plant a Phobl Ifanc

Mae 2.46 miliwn o blant o dan 15 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn y DU. Mae cyfraddau tlodi wedi parhau’n uchel yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf gyda phlant yn gyson yn wynebu’r risg uchaf o fyw mewn tlodi o blith unrhyw grŵp oedran. Mae’r argyfwng costau byw wedi cynyddu’r risg o effeithiau negyddol tlodi ar iechyd. Mae’r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol diweddaraf gan Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych ar effaith tlodi ar fabanod, plant a phobl ifanc ac yn crynhoi dulliau rhyngwladol i’w atal a/neu ei leihau. 

Mae tlodi eithafol yn effeithio’n anghymesur ar blant ac mae eu hiechyd a’u llesiant yn fwy agored i niwed o ran ei effeithiau yn y tymor byr a’r hirdymor. Gall tlodi yn ystod plentyndod arwain at ganlyniadau iechyd gwael ac wrth iddynt ddod yn oedolion, fel asthma, gordewdra ac iechyd meddwl gwael. Mae’n gysylltiedig â chyrhaeddiad addysgol isel, canlyniadau economaidd-gymdeithasol gwael a safonau byw gwael pan fyddant yn oedolion, gan groesi cenedlaethau. Mae stigma sy’n gysylltiedig â thlodi mewn plant yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar iechyd meddwl a hunan-barch ond hefyd o ran manteisio ar gymorth, er enghraifft prydau ysgol am ddim, nawdd cymdeithasol, lles brys a chymorth gyda dyledion. 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod dull amlasiantaeth yn hanfodol o ran cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, fel y llywodraeth, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, asiantaethau tai, landlordiaid, addysg, gwasanaethau iechyd meddwl a’r sector preifat. Mae’n gweithio’n fwyaf effeithiol pan gaiff ei ategu gan ddealltwriaeth gyffredin o niwed a’r camau blaenoriaeth sydd eu hangen i fynd i’r afael ag ef. 

Mae’r adroddiad yn cynnwys dulliau llwyddiannus ac atebion posibl i fynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau negyddol ar fabanod, plant a phobl ifanc. Gall buddion cyffredinol i blant sy’n rhoi trosglwyddiadau arian parod i rieni i’w gwario fel y gwelant yn dda yn gallu mynd i’r afael ag iechyd a llesiant plant a’u gwella. Mae rhaglenni diogelwch cymdeithasol yn cysylltu teuluoedd â gofal plant, bwyd maethlon ac addysg o safon i roi cyfle teg i bob plentyn mewn bywyd.  

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig