Dim digon ar gyfer yr hanfodion, wrth i’r argyfwng costau byw frathu

Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl i lawer o bobl yng Nghymru ac mae llawer wedi gorfod torri i lawr ar hanfodion fel bwyd a gwres i gael deupen llinyn ynghyd. 

Dyma’r canfyddiadau o un o arolygon Iechyd Cyhoeddus Cymru o effeithiau costau byw cynyddol, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mawrth 2023. 

Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau i dros 2,000 o bobl ledled Cymru yn ymwneud â’u hamgylchiadau ariannol, a oeddent yn teimlo y gallent ymdopi’n ariannol yn ystod yr argyfwng costau byw, a sut roedd yn effeithio ar eu hiechyd a’u hymddygiad o ddydd i ddydd.  

Dywedodd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr (94%) fod eu costau byw wedi cynyddu yn y chwe mis blaenorol a dywedodd 43% fod sefyllfa ariannol bresennol eu cartref yn waeth nag yr oedd chwe mis yn ôl. Dywedodd 77% o bobl eu bod naill ai’n poeni’n fawr neu’n poeni ychydig am gostau byw cynyddol. 

Gofynnwyd i’r cyfranogwyr am y newidiadau yr oeddent wedi’u gwneud i’w bywydau o ganlyniad i gostau byw cynyddol. Y newidiadau mwyaf cyffredin oedd defnyddio offer trydanol yn llai aml (70%)  a thorri i lawr ar bethau nad ydynt yn hanfodol (68%). Dywedodd 76% fod eu harferion prynu bwyd wedi newid, gan amlaf yn newid i frandiau rhatach (57%) a bwyta allan llai (53%). Nododd llawer o bobl eu bod yn gorfod defnyddio cynilion (36%) neu gynyddu’r arian y maent yn ei fenthyca (23%) o ganlyniad i gostau byw cynyddol.  Yn y cyfamser, dywedodd 44% o bobl eu bod wedi gwneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’w cartref. 

Dywedodd bron hanner (44%) y bobl fod costau byw cynyddol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a dywedodd 19% eu bod wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Dywedodd 22% o bobl fod costau byw cynyddol wedi cael effaith gadarnhaol ar sut mae pobl yn cefnogi ei gilydd yn y gymuned.  

Er bod y rhan fwyaf o bobl (77%) o’r farn y byddent yn gallu ymdopi’n ariannol drwy’r argyfwng costau byw, nid oedd 23% yn credu y byddent yn gallu ymdopi. Roedd y teimlad o fethu ymdopi’n ariannol yn fwy tebygol mewn rhai grwpiau poblogaeth gan gynnwys y rhai o aelwydydd incwm isel, y rhai â chyfyngiad ar weithgaredd, a’r rhai â phlant yn yr aelwyd.  

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig