Codi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau’n ymwneud â bwyd yng Nghymru

Mae Timau Iechyd y Cyhoedd a Deieteg Lleol BIP Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i amlygu’r Budd-daliadau’n Ymwneud â Bwyd sy’n bodoli i gefnogi teuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at fwyd iachach.

Wedi ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein i ddechrau gyda ffocws ar Gaerdydd a’r Fro, mae hwn bellach ar gael ar Wefan Symud Mwy Bwyta’n Iach fel adnodd digidol, i roi’r ymwybyddiaeth a’r hyder sydd ei angen ar fwy o staff rheng flaen sydd yn gweithio ar draws Cymru i annog teuluoedd i gael mynediad at yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Mae’r adnodd a mwy o wybodaeth ar gael yn Budd-daliadau’n Ymwneud â Bwyd – Symud Mwy Bwyta’n Iach

Ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yng Nghaerdydd a’r Fro neu â diddordeb yn y gwaith lleol yn yr ardal hon, gallwch gael mwy o wybodaeth am rai o’r prosiectau bwyd rhagorol sydd yn cynnig cymorth gwerthfawr i deuluoedd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig