Datgelu Arfeion Chwaraeon Diweddaraf Cymru
Er gwaethaf gwelliannau sylweddol, mae bron i filiwn o oedolion yng Nghymru nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol rheolaidd.
Yn ôl ‘Chwaraeon a Ffyrdd Actif o Fyw: Adroddiad Cyflwr y Genedl 2022-23’ a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru, dywedodd 40% o oedolion yng Nghymru (998,000 o bobl) nad oeddent wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Mae’r data, a gasglwyd fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23, hefyd yn dangos er bod y bwlch yn cau, mae lefelau cyfranogiad yn dal yn is na’r cyfartaledd ar gyfer menywod, oedolion anabl a’r rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol.
Ond canfu’r arolwg fod lefelau gweithgarwch yn gyffredinol uwch eleni nag oeddent y llynedd, ac roedd 39% o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Canfu’r arolwg hefyd fod oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn well, eu bod yn teimlo’n llai unig, bod ganddynt fwy o foddhad mewn bywyd a’u bod yn hapusach.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.