Cynnydd mewn anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yn pwysleisio’r angen am weithredu’n gynnar
Mae tystiolaeth newydd wedi dangos cynnydd parhaus mewn anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am ymyrraeth gynnar, gwaith atal a gweithredu ar y cyd ar draws pob sector.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn anawsterau emosiynol fel gorbryder ac iselder. Dengys tystiolaeth bod y tueddiadau hyn wedi dechrau ymhell cyn pandemig COVID-19.
Mae’r canfyddiadau wedi’u cynnwys mewn datganiad ar y cyd newydd ar Iechyd Meddwl a Llesiant Plant a Phobl Ifanc, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o bob cwr o’r DU a phobl ifanc o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dengys y canlyniadau bod cyfraddau cyflyrau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio ymhlith plant a phobl ifanc wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf, o un ym mhob deg yn 2004 i un ym mhob pump yn 2023.
Mae’n tynnu sylw at yr achosion cymhleth y tu ôl i’r cynnydd hwn, yn cynnwys tlodi teuluol, anghydraddoldeb cymdeithasol, pwysau academaidd, anawsterau iechyd meddwl rhieni, a dylanwad technoleg ddigidol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad cymunedol, perthnasoedd dibynadwy, a chyfleoedd i fod yn greadigol a gwneud gweithgarwch corfforol fel ffactorau amddiffynnol sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.