Datblygu Cynaliadwy
Datblygu Cynaliadwy
Mae datblygu cynaliadwy yn derm eang i ddisgrifio polisïau, prosiectau a buddsoddiadau sydd yn rhoi buddion heddiw heb aberthu iechyd amgylcheddol, cymdeithasol a phersonol yn y dyfodol. Caiff y polisïau hyn eu disgrifio’n aml fel rhai gwyrdd am eu bod yn canolbwyntio ar gyfyngu effaith datblygiad ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae buddion datblygu cynaliadwy hefyd yn cael eu teimlo ar draws croestoriad eang o iechyd a lles dynol, yn cynnwys lleihau llygredd a chlefydau’n ymwneud â’r amgylchedd, canlyniadau iechyd gwell a llai o straen. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2021)
Darllen mwyAdnoddau Ein prif ddewisiadau
Math o ffeil |
Teitl |
Cynhyrchwyd gan |
---|---|---|
|
Cyfleoedd Gwyrdd: Cefnogi Adferiad Gwyrdd yng Nghymru ar ôl COVID-19 drwy nodi’r cyfleoedd i gefnogi iechyd y boblogaeth drwy ddulliau cynaliadwy |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy: canllaw |
Llywodraeth Cymru |
|
Nodau Datblygu Cynaliadwy: Sicrhau mynediad at ddŵr a glanweithdra i bawb – Ar gael yn Saesneg yn unig |
United Nations |
|
Adnoddau ar gyfer Iechyd Cynaliadwy: Helpu sefydliadau ac unigolion i ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned a phobl ym mhopeth a wnânt |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
Chwilio am adnodd penodol?
Os ydych chi'n chwilio am adnoddau pwnc-benodol, cliciwch ar adnoddau chwilio lle byddwch chi'n gallu hidlo a chwilio yn ôl maes pwnc.
Cyfrannu at ein pynciau
Oes gennych chi adnodd rydych chi am ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein pynciau.