Galw ar fusnesau mawr i wneud rhagor i helpu defnyddwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd

Mae canlyniadau arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle gofynnwyd i gyfranogwyr a ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â datganiadau am newid hinsawdd a chynaliadwyedd, wedi datgelu y byddai 90 y cant o bobl yng Nghymru yn hoffi gweld busnesau mawr yn gwneud rhagor i’w helpu i wneud rhagor ar gyfer yr amgylchedd. Roedd 36 y cant yn cytuno ac roedd 54 y cant yn cytuno’n gryf â’r datganiad ‘Mae angen i fusnesau mawr fel archfarchnadoedd wneud rhagor i helpu pobl i newid eu hymddygiad’.

Ymatebodd 1007 o aelodau panel i’r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Mae pryder am newid hinsawdd ymhlith pobl yng Nghymru yn uchel. Datgelodd yr arolwg fod 81 y cant o bobl yn bryderus iawn (40 y cant) neu’n weddol bryderus (41 y cant) ynghylch newid hinsawdd. At hynny, pan ofynnwyd iddynt am eu rôl wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, roedd 72 y cant o bobl yn cytuno (51 y cant) neu’n cytuno’n gryf (21 y cant) â’r datganiad ‘Fy nghyfrifoldeb i yw gwneud rhywbeth am newid hinsawdd’.

Dangosodd yr arolwg hefyd fod y diffyg consensws ynghylch newid hinsawdd yn achosi ansicrwydd gyda 45 y cant o’r cyfranogwyr yn cytuno â’r datganiad ‘Mae cymaint o wybodaeth sy’n gwrthdaro ynghylch newid hinsawdd mae’n anodd gwybod beth i’w gredu’.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig