Nid oes rhaid i gaffael gostio ffortiwn na niweidio’r ddaear

Mae Iechyd cyhoeddus Cymru yn annog unrhyw un yn y sector cyhoeddus i lawrlwytho ei ganllaw newydd a dechrau lleihau costau a thorri carbon pryd bynnag y maent yn cyrchu nwyddau neu wasanaethau.

Mae caffael yn ddrud ac yn niweidiol ar hyn o bryd, gan gostio tua £7 biliwn y flwyddyn i sector cyhoeddus Cymru, ac mae 62 y cant o allyriadau carbon GIG Cymru yn dod o gaffael.

Mae’r e-ganllaw newydd, am ddim wedi’i greu i’w gwneud yn hawdd ac yn gyraeddadwy i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddilyn y geiriau ‘Byddwch y Newid’ a gwneud caffael yn fwy cynaliadwy, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd a bod yn fwy cyfrifol yn fyd-eang.

Mae’r canllaw yn cynnwys esboniad o’r materion a chamau i’w cymryd i wneud y broses gaffael yn llai niweidiol i’r blaned gyda chymorth ac arweiniad ar ddeddfwriaeth, canllawiau, dolenni defnyddiol i wybodaeth arall, adnoddau, sefydliadau, enghreifftiau, ffynonellau cyngor a syniadau i helpu’r rhai sy’n gyfrifol i feddwl am y broses gaffael a chymryd camau gweithredu ymarferol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig