Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru

Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy i leihau ac ailddefnyddio eu gwastraff, gan symud eu ffocws presennol ar ailgylchu a chreu economi fwy cylchol ac iachach, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Er bod Cymru yn arweinydd byd-eang mewn cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol (64 y cant), yn ail yn unig i’r Almaen (66 y cant), mae cyfanswm y gwastraff trefol (cilogram y pen) a grëwyd yng Nghymru yn uwch ar hyn o bryd nag yn Lloegr a’r Alban. 

Mae’r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau’r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig