Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a chymunedol ddechrau’r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio?

Rhoddodd y weminar hon, wedi ei harwain gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gefndir i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru mewn perthynas â datgarboneiddio a’r berthynas rhwng newid hinsawdd a gofal iechyd.

Fel rhan o weithgareddau Diwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin), rhoddodd y weminar drosolwg o newidiadau ymarferol, syml ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol i wella ymarfer o ddydd i ddydd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Lansiwyd y Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach a’r Cynllun Gwobrwyo sydd yn rhoi trosolwg o’r cynllun a sut i gymryd rhan.

Dyddiad

Mehefin 2022

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig