Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Ymagweddau Un Iechyd i Fynd i’r Afael â’r Argyfwng Hinsawdd a Natur yng Nghymru

Newid hinsawdd yw’r bygythiad byd-eang mwyaf i iechyd y mae’r byd yn ei wynebu yn yr 21ain Ganrif[1] ac yng Nghymru, mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn cael ei gynnwys yn amcanion llesiant Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Llywodraeth 2021-26.[2]

Argymhellodd Adroddiad Arbennig Prif Swyddog Meddygol Cymru (2021), yn dilyn y cydweithrediadau a ddatblygwyd cyn ac yn ystod y pandemig, y dylai Cymru fabwysiadu ymagwedd Un Iechyd tuag at ddatblygu cynaliadwy fel rhan o’r ymateb i amrywiaeth o fygythiadau, yn cynnwys newid hinsawdd.[3]

Mae cyfle i Gymru sefydlu ymagwedd Un Iechyd, gan integreiddio disgyblaethau lluosog ar draws y system a dod â phartneriaid ynghyd o’r sectorau dynol, anifeiliaid ac amgylcheddol i weithio ar faterion sydd yn croestorri’r meysydd hyn, yn cynnwys diogelwch bwyd a maeth, newid hinsawdd a bygythiadau yn sgîl clefydau heintus.

Roedd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o ddull Un Iechyd

[1] https://www.thelancet.com/countdown-health-climate

[2] https://gov.wales/programme-government

[3] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-01/chief-medical-officer-for-wales-special-report.pdf

Dyddiad

Ebrill 2022

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig