£2.4m i brosiectau i leihau allyriadau GIG Cymru
Bydd Rhaglen Genedlaethol Argyfwng yr Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ariannu prosiectau gan fyrddau iechyd a chyrff y GIG mewn ymgais i sicrhau lleihad o fwy na thraean mewn allyriadau carbon erbyn 2030.
Mae GIG Cymru yn cynhyrchu allyriadau sy’n gyfwerth â thua 1 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn. Mae’n cynhyrchu mwy o allyriadau na’r un corff arall yn sector cyhoeddus Cymru.
Rhaid i brosiectau sy’n gymwys am y £2.4 miliwn o gyllid gyfrannu at yr uchelgais i sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd fod yn Sero Net erbyn 2030 a/neu gynyddu gallu i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu, ymgysylltu neu newid ymddygiad sy’n helpu i ymwreiddio’r agenda newid hinsawdd o fewn y sefydliad, a/neu
- Ysgogi’r gwaith o weithredu cynlluniau datgarboneiddio ar lefel sefydliad, gan gynnwys drwy ariannu mentrau neu swyddi penodol, a/neu
- Ariannu mentrau neu weithgarwch arloesol bach a chanolig ar lawr gwlad.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.