Ystadegau swyddogol yn dangos mai canser y croen yw’r canser mwyaf cyffredin yng Nghymru o hyd

Canser y croen nad yw’n felanoma yw’r math mwyaf cyffredin o ganser a gafodd ei ddiagnosio yng Nghymru yn 2020 er gwaethaf gostyngiad o 17 y cant yn y nifer a gafodd ddiagnosis ers 2019 yn gysylltiedig â chyfyngiadau yn ystod y pandemig.

Yn ôl ystadegau swyddogol a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd cyfradd digwydded canser y croen nad yw’n felanoma, neu NMSC, ddwywaith a hanner yn fwy na chanser y prostad, sef y canser mwyaf cyffredin nesaf.
Mae nifer yr achosion o NMSC ar draws y byd yn cynyddu, ac mae hyn hefyd yn wir yng Nghymru, lle bu cynnydd o wyth y cant yn y gyfradd rhwng 2016 a 2019.

Mae’r ystadegau’n dangos bod 11,792 o achosion cyntaf o NMSC wedi’u diagnosio yng Nghymru yn 2020 sydd i lawr yn sylweddol o fwy na’r 15,000 o achosion cyntaf o NMSC a gafodd eu diagnosio yng Nghymru yn 2019.  Mae hyn oherwydd ailgyfeirio gwasanaethau tuag at bandemig Covid-19 a newidiadau a ddigwyddodd o ran mynediad cleifion at wasanaethau meddygon teulu ac ysbytai, yn hytrach na gostyngiad gwirioneddol yn nifer yr achosion.

Mae NMSC yn cyfeirio at ddau brif fath o ganser – carsinoma celloedd gwaelodol a charsinoma celloedd cennog croenol – y mae’r ddau ohonynt yn gysylltiedig ag ymddygiad gan unigolion y gellir ei atal, gan gynnwys dod i gysylltiad â golau UV o’r haul, yn ogystal â defnyddio gwelyau haul.  Er bod y canserau hyn yn cael eu trin yn llwyddiannus yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan garsinoma celloedd cennog y potensial i ledaenu i rannau eraill o’r corff, a gall carsinoma celloedd gwaelodol achosi difrod lleol difrifol os na chaiff ei drin, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd ar rannau o’r corff sy’n agored i’r haul, yn bennaf yr wyneb, croen y pen, y gwddf a’r clustiau.

Mae ffactorau risg ar gyfer NMSC yn cael eu dylanwadu gan alwedigaethau fel gweithio yn yr awyr agored, teithio i wledydd poethach, patrymau’r tywydd a daearyddiaeth, math o groen, ac ymddygiad yn yr heulwen fel gwisgo hetiau haul a rhoi eli haul. Nid ydym yn deall yn iawn eto sut mae tueddiadau newidiol yn y ffactorau hyn yn y gorffennol wedi achosi’r cynnydd mewn cyfraddau NMSC ar draws y byd.

Mae’r gyfradd ddigwydded bron ddwywaith yn uwch mewn dynion nag mewn menywod, ac yn wahanol i lawer o ganserau eraill, mae’r gyfradd ddigwydded ar ei huchaf yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf ac ar ei hisaf yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig