Yr amgylchedd bwyd yn hytrach na diffyg gwybodaeth yw’r rhwystr mwyaf i weithredu ar bwysau

Ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol yw’r prif rwystrau sy’n atal pobl rhag gweithredu ar eu pwysau, yn hytrach na diffyg gwybodaeth neu sgiliau, yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus

Nodwyd mai ‘gormod o demtasiynau’ oedd y rhwystr mwyaf sy’n atal pobl rhag gweithredu er mwyn cynnal pwysau iach. 

Dewisodd 29 y cant ‘demtasiynau’ o restr o 11 o rwystrau i weithredu, mwy nag unrhyw opsiwn arall.  Dywedodd 19 y cant nad oes ganddynt ddigon o amser, a dywedodd 17 y cant fod eu swydd yn eu hatal rhag gweithredu. 

Dim ond saith y cant ddywedodd fod diffyg sgiliau coginio, a dim ond pump y cant ddywedodd fod gwybodaeth annigonol yn rhwystrau.

Dywedodd 66 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn drymach nag y maent am fod.  Dywedodd 88 y cant o’r bobl hyn eu bod yn bwriadu gweithredu ar eu pwysau.

Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen i’w gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iach.  Maent yn dilyn arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 a ddangosodd gefnogaeth gref gan y cyhoedd yng Nghymru (57 y cant) ar gyfer camau gweithredu gan y llywodraeth i wneud y bwyd rydym yn ei brynu yn iachach.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig