WHO/Ewrop i lansio menter newydd i leihau siwgr a chalorïau wedi ei harwain gan y Deyrnas Unedig
Yn 2022, bydd WHO/Ewrop yn lansio’r Rhwydwaith Lleihau Siwgr a Chalorïau gwirfoddol newydd wedi ei arwain gan Aelod-wladwriaethau i hybu deiet gwell yn ogystal â lleihau lefelau bod dros bwysau a gordewdra ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO. Bydd y Rhwydwaith yn dod â gwneuthurwyr polisïau ac arbenigwyr iechyd o bob un o’r 53 o Aelod-wladriaethau’r Rhanbarth ynghyd i archwilio ffyrdd o leihau siwgr a chalorïau, gan barchu systemau bwyd cenedlaethol a thraddodiadau bwyd, a’r amgylchedd rheoliadol. Bydd y Deyrnas Unedig yn arwain y Rhwydwaith ar gyfer y tymor cyntaf o 3 blynedd.
Bydd Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) y Deyrnas Unedig a’i Swyddfa newydd ar gyfer Gwella Iechyd ac Anghydraddoldebau yn arwain ymdrechion cenedlaethol i wella a chodi gwastad iechyd y genedl trwy fynd i’r afael â gordewdra, helpu i wella iechyd meddwl a hybu gweithgaredd corfforol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.