Tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod ‘trethi siwgr’ yn lleihau’r defnydd o fwydydd llai iach
Mae tystiolaeth o wledydd gan gynnwys Mecsico a Hwngari, wedi dangos pan fydd llywodraethau wedi gweithredu i gyflwyno trethi ar fwydydd afiach a diodydd wedi’u melysu â siwgr (SSB), mae’n arwain at ostyngiad o ran nifer y rhai sy’n eu prynu a’u defnyddio.
Nid yw mesurau i annog pobl i brynu bwyd iachach drwy fentrau ariannol wedi’u gweithredu’n eang, felly mae diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd y mesurau hyn. Fodd bynnag, er bod y sail dystiolaeth ar weithredu ar raddfa fawr yn gyfyngedig ar hyn o bryd, mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd yn addawol.
Mae ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adroddiad sganio’r gorwel rhyngwladol, Dulliau Cyllidol o fynd i’r afael â Gordewdra, i archwilio polisïau ariannol fel cynnydd mewn prisiau a chymorthdaliadau ar grwpiau bwyd penodol ac i ba raddau y mae’r polisïau hyn yn hyrwyddo deietau iachach.
Mae cynnydd mewn prisiau ar fwydydd afiach wedi cynyddu o amgylch y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda 115 o wledydd yn gweithredu ‘treth siwgr’ ar SSB, a 41 o wledydd yn cyflwyno trethi bwyd yn genedlaethol.
Mae hyn yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni a wnaeth argymhellion y dylid trethu SSB a bwydydd afiach, gan ddyfynnu tystiolaeth ynghylch yr effaith ddymunol y cafodd prisiau uwch ar ymddygiad prynu, yn ogystal â chostau isel gweithredu a dichonoldeb hyn.
Mae tystiolaeth gynyddol y gall cyfuno trethi ar fwydydd llai iach â chymorthdaliadau neu drethi gwerthu llai ar opsiynau iachach fod yn ddull effeithiol. Mae’r adroddiad yn dweud bod y ffordd y mae’r trethi yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y gweithredu yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.