Tynnu plant a phobl ifanc oddi ar y rhestr warchod

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan wedi cyhoeddi nad yw plant a phobl ifanc bellach yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn perthynas â Covid-19, a’u bod yn mynd i gael eu tynnu oddi ar y rhestr gwarchod cleifion.

Daw’r penderfyniad i dynnu plant a phobl ifanc o’r rhestr o’r rhai sy’n cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar ôl adolygiad cynhwysfawr o’r dystiolaeth, ac mae’n gam sy’n cael ei argymell gan holl Brif Swyddogion Meddygol y DU.

Canfu astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU i effeithiau’r Coronafeirws ar blant a phobl ifanc fod y rhai yn y grŵp oedran hwn, gan gynnwys y rhai a ystyriwyd yn wreiddiol yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol, mewn perygl isel iawn o fynd yn ddifrifol wael neu farw o’r feirws.

Bydd y cyngor newydd yn golygu na fydd yn ofynnol mwyach i tua 2,700 o blant a phobl ifanc warchod eu hunain os bydd angen ailgyflwyno’r mesurau gwarchod, er bod hynny’n annhebygol. Bydd pob plentyn a pherson ifanc y mae’r newid hwn yn effeithio arnynt yn derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn esbonio nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol o effeithiau haint Covid-19, ond y dylent barhau i gymryd camau i leihau eu risg o ddal y feirws.

Bydd brechu rhai plant rhwng 12 a 15 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol, neu sy’n byw gydag unigolion (oedolion neu blant) â systemau imiwnedd gwan, yn parhau, yn unol â chyngor y gallai imiwneiddio fod o fudd i rai grwpiau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rydyn ni wedi bod yn ofalus tu hwnt, a gweithredu ar sail data drwy gydol y pandemig ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny. Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar y data o’r 18 mis diwethaf, ac wedi ein sicrhau na ddylai plant a phobl ifanc a ystyriwyd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn flaenorol gael eu cynnwys ar y rhestr gwarchod cleifion bellach oherwydd bod y risg o salwch difrifol neu farwolaeth o’r coronafeirws yn isel iawn.

“Mae’r pandemig wedi effeithio’n ddifrifol ar blant a phobl ifanc, gyda llawer yn colli’r ysgol ac yn methu cwrdd â theulu a ffrindiau. Bydd y newid i’r rhestr warchod yn sicrhau mai dim ond pobl sydd wir angen dilyn y cyngor hwn sy’n aros ar y rhestr.

“Rydyn ni’n dal i ddysgu am effeithiau haint coronafeirws, gan gynnwys Covid hir, ac rwy’n annog pawb yng Nghymru i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r risg o ddal y feirws a helpu i ddiogelu Cymru a’u hanwyliaid.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig