Trefniadau dychwelyd i’r ysgol a’r coleg

Mae’r sefyllfa yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i fod yn ddifrifol iawn. Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno bod y DU bellach ar y lefel uchaf o risg, gyda’r Cydgyngor Bioddiogelwch ar lefel 5.

Yn unol â’r penderfyniad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â CLlLC a Cholegau Cymru, wedi cytuno y dylai pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol symud i ddysgu ar-lein tan Ionawr 18.

Bydd ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal ag i ddysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol.  Ar y sail hon dylai Ysgolion Arbennig ac UCDau aros ar agor os oes modd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig