Y mewnwelediad manwl cyntaf o lesiant pobl ifanc cyn ac yn ystod pandemig Covid

Mae dadansoddwyr data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi’r mewnwelediad manwl cyntaf o ran sut roedd pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo ac yn ymddwyn yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod y pandemig.  Maent wedi cymryd canlyniadau arolwg mawr o ysgolion a chyflwyno adroddiadau ar y data yn lleol, gan ein helpu i ddeall y gwahaniaethau rhanbarthol mewn iechyd a llesiant pobl yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae’r data yn cael eu cyflwyno mewn dangosfwrdd ar-lein sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae’n cyflwyno data o arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yr arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (SHW) gan SHRN yw’r mwyaf o’i fath yn y DU, gyda mwy na 123,000 o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 o 202 o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan yn 2021/22. Mae’r arolwg eang ei gwmpas, a gynhelir bob yn ail flwyddyn, yn holi myfyrwyr am agweddau ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a pherthnasoedd cymdeithasol gyda data dienw yn cael eu rhannu ag ysgolion i lywio ymarfer lleol.

Mae llesiant meddyliol wedi gostwng yn sylweddol ers 2017, yn enwedig ymhlith merched.  Mae canran y merched sy’n nodi llesiant meddyliol isel wedi cynyddu 9.5 pwynt canran rhwng 2017 a 2021.  Roedd mwy o ferched na bechgyn hefyd yn nodi’n gyson eu bod yn teimlo llawer o bwysau o waith ysgol ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’r gwahaniaeth hwn wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn.  Yn y data diweddaraf, nodwyd y sgoriau llesiant meddyliol uchaf ym Mro Morgannwg, Abertawe a Chaerdydd a nodwyd y sgoriau llesiant isaf yng Nghonwy, Torfaen a Merthyr Tudful.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig