Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dyblu’r cyllid i gefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru â phecyn £10m

Y caiff mwy na £10m ei ddarparu i ymestyn un o raglenni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi dysgwyr sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru.

Wrth ymweld ag ysgol gynradd Glan Morfa yng Nghaerdydd, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cyllid cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cael ei ddyblu i gynnwys blynyddoedd ychwanegol yn 2020/21, ac y câi telerau’r grant eu hymestyn i’w gwneud yn bosibl prynu gliniaduron a chyfrifiaduron llechen mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.

Bydd y cyllid o £10.3m – cynnydd o £5.1m yn 2019/20 – yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymestyn y cynllun i gefnogi’r rheini ym mlynyddoedd 1, 5, 8, 9 ac 11, ar gyfradd o £125 y dysgwr.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig