Marwolaethau canser cyffredinol yn gostwng yn ystod y pandemig, ond anghydraddoldebau’n ehangu ar gyfer rhai mathau o ganser
Mae cyhoeddiad newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y gostyngiad hirdymor yn y gyfradd marwolaethau oherwydd canser wedi cyflymu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae’r cyhoeddiad, Marwolaethau Canser yng Nghymru 2002-2021, yn dangos er bod y gostyngiad hirdymor mewn marwolaethau canser cyffredinol – y gyfradd y mae pobl yn marw o ganser – wedi dechrau arafu, yn 2019 a 2020 roedd y gostyngiad hwnnw wedi dwysáu, gyda gostyngiad sydyn pellach i 2021. Canser yw un o brif achosion marwolaeth yng Nghymru o hyd.
Roedd y bwlch yn y gyfradd gyffredinol marwolaethau oherwydd canser rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn ehangach yn ystod y degawd diwethaf o gymharu â’r un blaenorol, gan godi o 40 y cant yn uwch yn 2002, i bron 55 y cant yn uwch yn 2021. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid oedd y bwlch wedi newid yn ystod y pandemig.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.