Mae miliwn yn llai o bobl yn cael buddion iechyd o fyd natur ers 2020

Mae pobl yn y Deyrnas Unedig (DU) yn treulio llai o amser mewn amgylcheddau naturiol ers y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Amcangyfrifwyd bod 1.1 miliwn yn llai o bobl ledled y DU wedi cael buddion iechyd o dreulio amser ym myd natur yn 2022 o gymharu â dwy flynedd ynghynt.

Amcangyfrifwyd y collwyd buddion iechyd gwerth tua £390 miliwn, sy’n cyfateb i £356 y person ar gyfartaledd.

Dyna’r swm y credir y byddai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fodlon ei wario pe bai’n defnyddio triniaethau i sicrhau buddion iechyd cyfatebol i’r rhai a geir wrth dreulio amser ym myd natur.

​Roedd y gostyngiad hwn mewn buddion iechyd yn cyfateb hefyd i golli mwy na 22,000 o flynyddoedd o fywyd mewn iechyd perffaith ymhlith pobl ledled y DU.

Achoswyd y duedd hon gan ostyngiad yn nifer yr ymweliadau ag amgylcheddau naturiol – a’r amser a dreuliwyd ynddynt – dros y ddwy flynedd diwethaf. Bellach, mae nifer yr ymweliadau wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2019, sy’n sylweddol is na’r uchafbwynt a arweiniwyd gan y pandemig coronafeirws (COVID-19) yn 2020.

Ffynhonnell: y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig