Y Cerddwyr yn lansio prosiect newydd i wella mynediad a hybu’r amgylchedd naturiol

Nod ‘Llwybrau Llesiant’, prosiect dwy flynedd newydd ar draws Cymru, yw gweithio gyda chymunedau i wella mynediad at eu llwybrau lleol er mwyn mwynhau’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.  Trwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ymarferol a gwelliannau amgylcheddol, ein gobaith yw gwneud cerdded yn greiddiol i gymunedau.

Mae llawer o bobl wedi profi buddion cerdded yn lleol yn ystod y pandemig, i’w helpu i gadw’n egnïol yn gorfforol a chysylltu â natur, yr holl bethau sydd wedi eu profi i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddwl.

Fodd bynnag, mae llawer o’r llwybrau a’r arwyddion mewn cyflwr gwael ac angen eu cynnal a’u cadw gyda gwaith brys yn hanfodol i gynnal ein mynediad at natur.  Cred Y Cerddwyr mai gweithio gyda chymunedau i’w helpu i berchnogi eu rhwydweithiau cerdded lleol yw’r ffordd ymlaen a bydd y prosiect Llwybrau Llesiant yn mabwysiadu’r ymagwedd yma.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig