Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol

Mae nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol, lle gellir eu cefnogi i gael mynediad at weithgareddau fel dosbarthiadau ymarfer corff, garddio, a grwpiau celf yn eu cymuned i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well.  

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm cyffredinol sy’n disgrifio dull sy’n canolbwyntio ar y person o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Gall helpu i rymuso unigolion i nodi eu hanghenion eu hunain, eu cryfderau, a’u hasedau personol ac i gysylltu â’u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda’u hiechyd a’u llesiant personol.  

Gellir defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i helpu person i wella ei lesiant corfforol, meddyliol neu gymdeithasol, a gall ddarparu continwwm o gymorth a chwarae rôl ataliol. 

Mae data diweddar yn dangos y bu cynnydd clir o flwyddyn i flwyddyn mewn atgyfeiriadau a defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol o tua 10,000 yn 2018 i 2019 i ychydig dros 25,000 yn 2020 i 2021. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau’r nifer sy’n mynd i feddygfeydd teulu 15 i 28 y cant, gyda thua 20 y cant o gleifion yn cysylltu â’u meddyg teulu ynglŷn â phroblemau cymdeithasol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, i ddarparu set gyffredin o safonau a sicrhau bod presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu’n gyson, beth bynnag yw’r lleoliad.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig