Mae hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu’r risg y bydd rhieni’n defnyddio cosb gorfforol tuag at blant
Mae papur newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn dangos bod dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) fel camarfer plant a dod i gysylltiad â thrais domestig yn gallu effeithio ar ymddygiad magu plant unigolion yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynyddu’r risg y byddant yn defnyddio cosb gorfforol tuag at blant.
Daw’r ymchwil wrth i nifer cynyddol o wledydd, gan gynnwys Cymru geisio atal y math yma o drais drwy atal cosbi plant yn gorfforol.
Mae’r erthygl, a gyhoeddwyd yn yr MDPI Cyfnodolyn Rhyngwladol Ymchwil Amgylcheddol ac Iechyd Cyhoeddus mynediad agored, yn nodi canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021 – blwyddyn cyn i Gymru weithredu gwaharddiad llwyr ar y defnydd o gosb gorfforol tuag at blant. Holwyd 720 o rieni yng Nghymru â phlant o dan 18 oed a mesur y berthynas rhwng nifer yr ACE yr oedd rhieni wedi dioddef yn ystod plentyndod a’u defnydd o gosb gorfforol tuag at blant.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.