Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg: cynllun gweithredu

Mae’r Cynllun Aflonyddu Rhywiol gan Gymheiriaid, a gyhoeddwyd ddoe, yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn eu cymryd i atal ac ymateb i fater aflonyddu gan gymheiriaid ac ymddygiad rhywiol niweidiol (HSB) mewn lleoliadau addysg. 

Ers lansio platfform Everyone’s Invited, adolygiadau dilynol gan Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae gennym bellach ymwybyddiaeth lawer gwell o gyffredinrwydd aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid yn ein hysgolion. 

Mae’n hanfodol bod lleoliadau addysg yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau o ran sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae’r Cynllun yn cydnabod bod cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon yn allweddol i hyn, i sicrhau bod lleoliadau addysg yn teimlo’n hyderus yn siarad ac addysgu am bob math o aflonyddu rhywiol, mewn ffordd sy’n briodol yn ddatblygiadol. 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ganolog i helpu plant a phobl ifanc i adnabod nodweddion cydberthnasau diogel ac iach, ac mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gorfodol yn nodi dysgu craidd sy’n ceisio mynd i’r afael â materion sy’n peri gofid fel bwlio, aflonyddu rhywiol a gwahaniaethu. Mae diogelwch ar-lein yn benodol yn nodwedd allweddol yn y Cod ac mae addysgu pobl ifanc ar sut i ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn fater trawsgwricwlaidd. 

Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o gyffredinrwydd achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein ac mae mynd i’r afael â hyn yn agwedd hanfodol ar y cynllun hwn. Mae ein lleoliadau addysg yn rhan annatod o ddull cymuned gyfan rhagweithiol, sy’n cynnwys creu polisïau ac addysgu plant a phobl ifanc am faterion hanfodol fel amrywiaeth, parch, cydsyniad, a cydberthnasau iach yn y byd ar-lein.

Ar y cyd â’n cynllun Gwella Cadernid Digidol mewn Addysg, mae ein camau gweithredu wedi’u cynllunio i rymuso lleoliadau addysg a dysgwyr i ddeall, atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu rhywiol ar-lein. Bydd y camau rydym yn eu cymryd yn y cynllun hwn yn cyfrannu at les a diogelwch dysgwyr ac yn herio normaleiddio aflonyddu rhywiol ar-lein. 

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a’r dull Glasbrint o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw neu’n ferch. 

Nod y Cynllun Gweithredu hwn yw diwallu anghenion pob dysgwr ac mae’n cydnabod bod anghenion gwahanol gan grwpiau gwahanol o ddysgwyr fel dysgwyr LHDTC+, Du ac ethnig lleiafrifol, neu ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig sy’n croestorri. 

I gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun hwn, mae’r NSPCC wedi gweithio gyda phobl ifanc i nodi cyfleoedd i ddeall gwybodaeth pobl ifanc am aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid, a ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi wrth siarad ac adrodd am aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid, a beth allai’r atebion fod i atal aflonyddu rhywiol o’r fath yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod llais y dysgwr yn rhan ganolog o’n gwaith parhaus i fynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach eleni. 

Mae’r Cynllun wedi cael ei ddatblygu a’i fireinio drwy ymgysylltu ag ystod o bartneriaid, ar draws sectorau, gan gynnwys addysg, llywodraeth leol, yr heddlu a’r trydydd sector. 

Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau hyn wrth i ni symud ymlaen i gyflwyno’r Cynllun. Y gwaith partneriaeth hwn fydd yn sicrhau ein bod yn gallu  darparu amgylchedd dysgu diogel i bob un o’n dysgwyr.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig