Mae arolwg yn dangos cefnogaeth gref i rôl ysgolion mewn iechyd a llesiant plant a phobl ifanc

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cefnogi ysgolion a meithrinfeydd i chwarae rhan mewn canlyniadau iechyd a llesiant i rai dan 18 oed.  

Mae canlyniadau diweddaraf arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod cefnogaeth i rôl lleoliadau addysgol (e.e. ysgolion a meithrinfeydd) yn uchel ar draws pob un o’r naw maes iechyd a llesiant plant y gofynnwyd amdanynt.  Pan ofynnwyd i’r boblogaeth gyffredinol i ba raddau y maent yn cefnogi neu’n gwrthwynebu bod gan leoliadau addysg rôl mewn iechyd a llesiant, roedd y gyfran a ymatebodd “cefnogaeth gref” ar ei huchaf ar gyfer cefnogi diogelwch ar-lein (77 y cant), atal ysmygu a fepio (76 y cant) , cael mynediad at gymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl (74 y cant), ac atal camddefnyddio alcohol a chyffuriau (74 y cant).  

Canfuwyd hyd yn oed mwy o gefnogaeth ymhlith rhieni â phlant o dan 18 oed, lle’r oedd y cyfrannau a ymatebodd “cefnogaeth gref” ar eu huchaf ar gyfer diogelwch ar-lein (84 y cant), datblygu dulliau ymdopi cadarnhaol (80 y cant), cyrchu cymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl (80 y cant), datblygu perthnasoedd cadarnhaol (78 y cant), ac atal ysmygu a fepio (78 y cant). Mae ysgolion yn chwarae rhan fach ond rhan bwysig o ran hybu iechyd a llesiant ymhlith pobl ifanc, ac mae cefnogaeth gan rieni wedi’i nodi yn y llenyddiaeth ehangach fel un o’r ysgogiadau allweddol sy’n galluogi lleoliadau i ymgorffori dulliau ysgol gyfan tuag at iechyd a llesiant.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig