Mae cau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol yn cynnig manteision posibl ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

Mae offeryn sydd wedi’i gynllunio i gynyddu dealltwriaeth o’r ffactorau cysylltiedig sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol plentyn ac adolygiad o’r mecanweithiau o ran sut y mae hyn yn effeithio ar iechyd wedi’i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae addysg a sgiliau da yn floc adeiladu ar gyfer iechyd a llesiant. Fodd bynnag, nid yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael yr un cyfle ar gyfer dysgu ac mae bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng plant o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol. 

I ddeall hyn ymhellach, mae’r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi archwilio’r hyn sy’n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru a’r ffyrdd y mae addysg yn effeithio ar iechyd. Mae’r gwaith hwn yn dangos y berthynas agos rhwng iechyd ac addysg, ac na ellir lleihau’r bwlch economaidd-gymdeithasol mewn cyrhaeddiad yng Nghymru gael ei wneud gan ysgolion yn unig. 

Gan gynnwys arbenigwyr pwnc a phartneriaid amrywiol, mae’r tîm wedi mapio’r ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol. Mae’r map hwn yn disgrifio sut y mae llesiant meddyliol plentyn, ymgysylltu â’r ysgol a’r amgylchedd dysgu yn y cartref yn cyfrannu at gyflawniad addysgol. Mae’r rhain yn eu tro yn cael eu dylanwadu gan amrywiaeth eang o ffactorau teuluol, cartref a chymdeithasol, gan gynnwys rhai sy’n dechrau cyn i blentyn gael ei eni.    Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar addysg, ond mae ymchwil yn dangos sut y mae addysg yn effeithio ar iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd, drwy dri phrif lwybr. Y rhain yw cyflogaeth ac incwm da, ffactorau cymdeithasol a seicolegol, a gwybodaeth ac ymddygiad iechyd. Fodd bynnag, er y gall cyflawniad addysgol fod yn ysgogydd pwysig o ran cyfle, gall hefyd gyfrannu at fwy o anghydraddoldebau iechyd drwy barhau â chylchoedd o annhegwch rhwng cenedlaethau.  

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig