Arbenigwyr iechyd yn croesawu’r duedd ar i lawr mewn achosion o dynnu dannedd plant o dan anesthetig cyffredinol

Mae arbenigwyr iechyd deintyddol cyhoeddus wedi croesawu canlyniadau sy’n dangos gostyngiad yn nifer yr achosion o dynnu dannedd plant o dan anesthetig cyffredinol dros y degawd diwethaf. 

Mae adroddiad ar y patrymau atgyfeirio deintyddol pediatrig yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn dangos bod 8,901 o blant wedi cael triniaethau tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol yn 2013/14. Gostyngodd hyn i 3,362 yn 2022/23 yn dilyn sawl blwyddyn o ostyngiad cyson. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 62 y cant yn nifer y plant sy’n cael y driniaeth fewnwthiol hon dros gyfnod o naw mlynedd. 

Nid yw tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol heb risg a dim ond fel dewis olaf y dylid ei wneud. Gall iechyd y geg gwael arwain at bydredd dannedd a allai, os na chaiff ei drin, arwain at dynnu dannedd. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod difrifoldeb pydredd dannedd yn gwella ar lefel y boblogaeth yng Nghymru, ond mae’n dal i effeithio ar draean o’r holl blant pump oed. 

Canfu’r adroddiad fod mwy o atgyfeiriadau’n cael eu gwneud ar gyfer dynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol mewn ardaloedd sy’n profi lefelau uwch o amddifadedd. Nod rhaglen genedlaethol Cynllun Gwên yw lleihau’r gwahaniaethau hyn drwy feithrin arferion hylendid y geg da mewn plant o oedran ifanc. Mae Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yn gweithio gyda gwasanaethau blynyddoedd cynnar, meithrinfeydd ac ysgolion i helpu i ddechrau arferion da, gyda brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ac ymweliadau farnais fflworid er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydru.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig