Cyfraddau pydredd dannedd mewn plant yng Nghymru yn gostwng, ond mae materion yn parhau

Mae arbenigwyr iechyd deintyddol cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu’r canfyddiadau o raglen archwilio iechyd deintyddol plant ddiweddar sy’n dangos bod cyfran y plant ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o bydredd dannedd wedi parhau i ostwng ers dechrau cyflwyno adroddiadau yn 2007/08. 

Mae’r adroddiad, a edrychodd ar 9,300 o blant ym mlwyddyn un mewn ysgolion (5-6 oed) ym mhob ardal o Gymru, yn dangos bod nifer yr achosion a difrifoldeb pydredd dannedd wedi gostwng, ond bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n parhau ac mae lefel y pydredd dannedd yn dal i fod yn achos pryder. 

Mae canran yr achosion – canran y plant a archwiliwyd yn yr astudiaeth sydd â dannedd wedi pydru, dannedd ar goll neu wedi’u llenwi – wedi gostwng o 47.6 y cant yn 2007/08 i 32.4 y cant yn 2022/23.  Mae’r difrifoldeb – nifer cyfartalog y dannedd fesul plentyn sydd wedi pydru, ar goll neu wedi’u llenwi – wedi gostwng o 1.98 yn 2007/08 i 1.11 yn 2022/23.   

Fodd bynnag, mae nifer yr achosion o ddannedd sydd wedi pydru, ar goll neu wedi’u llenwi yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd lle ceir yr amddifadedd uchaf. Y gyfradd achosion yn yr ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf yw 43.4 y cant (i lawr o 57.6 y cant yn 2007/08) o gymharu â 20.7 y cant (i lawr o 34.5 y cant yn 2007/08) yn yr ardaloedd â’r amddifadedd lleiaf. 

Nod rhaglen genedlaethol Cynllun Gwên yw lleihau’r gwahaniaethau a welir ar draws ardaloedd yng Nghymru. Mae’n cynnwys Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol y GIG yn gweithio gyda gwasanaethau blynyddoedd cynnar, meithrinfeydd ac ysgolion i helpu i ddechrau arferion da, gyda brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ac ymweliadau farnais fflworid er mwyn helpu i amddiffyn dannedd rhag pydru. 

Mae deiet sy’n isel mewn siwgr, ynghyd â brwsio rheolaidd â phast dannedd fflworid sy’n briodol i oedran yn cael yr effaith fwyaf ar ddannedd plant a bydd yn helpu i atal pydredd. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig