Galw am ‘Haf o chwarae’ i bob plentyn ar draws y DU
Mae’r ymgyrch #HafOChwarae yn galw am flaenoriaethu chwarae’r haf hwn er mwyn cefnogi iechyd a lles plant a’u hadferiad o effeithiau’r pandemig Covid-19.
Mae chwarae’n darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a gweithgarwch corfforol a gall leihau straen plant a hybu eu lles. Mae’n allweddol bod plant yn cael yr amser a lle diogel y maent eu hangen i ailgysylltu a chwarae gyda ffrindiau ac i fwynhau ystod eang o gyfleoedd chwareus. Mae gan bawb rôl i’w chwarae er mwyn galluogi hyn. Mae pob lleoliad yn cyfrif – parciau, strydoedd, ysgolion, meysydd chwarae, gofodau cyhoeddus a mwy.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.