Cynigion i wneud yr amgylchedd bwyd yn iachach

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru). Maen nhw hefyd yn galw am dystiolaeth am yfed diodydd egni gan blant.

Mae 2 ran i’r cyhoeddiad hwn:

Rhan 1: ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar y rheoliadau drafft a’r dull gorfodi ar gyfer Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru).

Rhan 2: galwad am dystiolaeth sy’n gofyn am dystiolaeth yn ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant.

Nod y rheoliadau drafft arfaethedig yw sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawsaf i ddefnyddwyr Cymru drwy wneud y canlynol:

  • Cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp o gynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr sy’n gallu annog pobl i orfwyta. Mae hyn yn cynnwys cynigion amleitem (er enghraifft prynu un eitem a chael un arall am ddim) a chyfleoedd i ail-lenwi diodydd meddal llawn siwgr am ddim.
  • Cyfyngu ar leoli cynhyrchion bwyd a diod â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr mewn lleoliadau gwerthu allweddol, sy’n cynnwys wrth fynedfeydd siopau, wrth y desgiau talu ac ar ben yr eiliau. Gall hyn arwain at bŵer plagio a phrynu cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr ar fympwy.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i alw am dystiolaeth sy’n ymwneud ag yfed diodydd egni gan blant er mwyn deall yr effeithiau’n well, gan gynnwys yr effeithiau ar y gymdeithas ehangach.

Ymgynghoriad yn cau: 23 Medi 2024

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig