Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn i brydau ysgol am ddim a gofal plant am ddim wella iechyd ein plant

Ni ddylai cyflwyno prydau ysgol a gofal plant am ddim gyfaddawdu ar ansawdd os ydym yn mynd i ddiogelu iechyd y rhai sydd fwyaf difreintiedig. Dyma’r neges gan uwch arweinwyr Grŵp Cydgysylltu Adeiladu Cymru Iachach. 

Nod y grŵp, a sefydlwyd yn 2019, yw sicrhau effaith fwyaf posibl yr asiantaethau cyfunol sy’n rhan o’i aelodaeth, er mwyn gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau. 

Mae Grŵp Cydgysylltu Adeiladu Cymru Iachach yn gynghrair anstatudol o arweinwyr strategol sy’n cynrychioli sefydliadau a safbwyntiau strategol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector gydag amrywiaeth o gynrychiolaeth ledled Cymru.  Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Chwaraeon Cymru, yr heddlu, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, tai a’r sector gwirfoddol. 

Bydd y canfyddiadau, a baratoir ar gais y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bwysig i awdurdodau lleol wrth iddynt barhau i weithredu polisïau Llywodraeth Cymru.  Mae’n hanfodol nad yw gweithredu polisïau fel ymestyn gofal plant y blynyddoedd cynnar a darparu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion cynradd yn ehangu anghydraddoldebau presennol, ac yn ddelfrydol dylai leihau’r anghydraddoldebau hyn.   

Yn eu hadroddiad, maent yn argymell camau i gefnogi’r gweithredu – fel: 

  • Sicrhau bod nifer y rhai sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim yn uchel a bod y ddarpariaeth yn gynhwysol 
  • Darparu cyfleoedd i chwarae a chymdeithasu yn y lleoliad 
  • Dysgu o raglenni eraill sy’n darparu bwyd y tu allan i’r ysgol 
  • Datblygu darpariaeth gynaliadwy sy’n cefnogi economïau sylfaenol lleol dros yr hirdymor 
  • Ymgorffori arferion gwaith teg mewn arlwyo ysgolion 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig