Y cynllun prydau ysgol am ddim i bawb yn cychwyn cael ei weithredu ym mis Medi
O fis Medi, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol ledled Cymru i’w helpu i gychwyn cynnig prydau ysgol maethlon, am ddim, gan ddechrau gyda’r dysgwyr ieuengaf. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn barod i gychwyn y cynnig ym mis Medi, er mwyn sicrhau bod plant ar draws Cymru yn elwa ar y cynnig cyn gynted â phosibl.
Bydd hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o blant mewn dosbarthiadau Derbyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd o fis Medi.
Erbyn mis Ebrill 2023 bydd y rhan fwyaf o blant ym Mlynyddoedd 1 a 2 hefyd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim, gydag awdurdodau lleol yn cael yr hyblygrwydd, y cymorth a’r cyllid i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim i’r rhai ym Mlynyddoedd 1 a 2 yn gynharach nag Ebrill os oes modd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.