Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y blynyddoedd cynnar wedi’u nodi i helpu i gefnogi teuluoedd ifanc yng Nghymru
Mae adroddiad o’r rhaglen 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi chwe maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ac yn dweud y gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud yn y meysydd hyn sicrhau gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru.
Dywed yr adroddiad fod creu’r amodau i bob teulu ffynnu – fel cartrefi diogel, gwaith teg ac incwm, trafnidiaeth hygyrch ac amgylcheddau adeiledig a naturiol sy’n ystyriol o deuluoedd – yn gweithredu fel sylfeini cymdeithas sy’n galluogi pob plentyn i gael y dechrau gorau. mewn bywyd.
Ac mae’r ymchwil yn dangos bod buddsoddi mewn ymyriadau blynyddoedd cynnar yn talu ar ei ganfed, gyda phob punt sy’n cael ei gwario ar helpu teuluoedd a phlant yn ystod y mil diwrnod cyntaf o fywyd yn sicrhau elw o rhwng £1.30 a £16.80 mewn arbedion hirdymor a buddion i’r economi.
Mae’r adroddiad, sy’n galw’r mil diwrnod cyntaf yn ‘gyfle euraidd i adeiladu dyfodol tecach’ i blant, yn dweud mai beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd yw’r sylfaen ar gyfer dyfodol hapusach ac iachach. Mae’n dweud bod dechrau da mewn bywyd yn llywio sut mae plant yn teimlo amdanyn nhw eu hunain a’r rhai o’u cwmpas. Yn ogystal â chariad, gofal a sylw gan y bobl bwysicaf yn eu bywydau, mae babanod angen maeth, chwarae a chyfathrebu da i adeiladu eu hymennydd a’u cyrff.
Mae’n amlwg bod sawl her o ran sefydlu sylfeini cryf i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru, gydag ymchwil yn dangos bod mwy nag un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Pan nad yw babanod yn dechrau gyda sylfaen gadarn, mae’n anoddach iddynt ddal i fyny yn nes ymlaen, ac o ganlyniad maent yn aml ar ei hôl hi o’u cymharu â’u cyfoedion, gan fod angen mwy o gymorth arnynt ymhellach i lawr y ffordd.
Ar y llaw arall, gall buddsoddi mewn hyfforddi ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn meysydd fel datblygiad lleferydd ac iaith, gael effaith enfawr ar ganlyniadau cyfathrebu plant – ar gost ariannol llawer mwy cymedrol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.