Mae brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn meithrinfeydd ac ysgolion yn gweld adfer calonogol ar ôl y pandemig

Mae nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn meithrinfeydd ac ysgolion wedi adfer yn dilyn pandemig Covid-19.  

Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, darparodd 1003 o feithrinfeydd ac ysgolion raglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ddyddiol, gyda 50,705 o blant yn cymryd rhan. Dosbarthodd Cynllun Gwên i wella iechyd y geg 166,940 o becynnau brwsio dannedd gartref hefyd drwy ysgolion a meithrinfeydd, a dosbarthwyd 23,644 o becynnau pellach gan ymwelwyr iechyd.  

Mae’r canfyddiadau a gyhoeddwyd yn adroddiad blynyddol Cynllun Gwên yn dangos adferiad sylweddol o ran nifer y plant ifanc sy’n cael budd, ar ôl y tarfu ar y rhaglen yn ystod pandemig Covid-19. Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, cafodd 317 o feithrinfeydd ac ysgolion gymorth i ailddechrau brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, sef 20 y cant o ysgolion a meithrinfeydd cymwys. Yn 2022/23, cymerodd 60 y cant o leoliadau addysg cymwys ran, gan ddangos cynnydd o 686. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd er mwyn adfer y cyfranogiad i lefelau cyn y pandemig, oherwydd bod 1,396 o ysgolion a meithrinfeydd (82 y cant o’r rhai a oedd yn gymwys) wedi cymryd rhan ym mlwyddyn academaidd 2018/19. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig