Mae data newydd yn dangos y gyfran uchaf erioed o blant oedran Derbyn sydd dros bwysau neu’n ordew yng Nghymru

Dengys ystadegau swyddogol diweddaraf Rhaglen Mesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 27.3 y cant o blant pedair a phump oed yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew — y gyfradd uchaf a gofnodwyd yng Nghymru gyfan ers i’r rhaglen ddechrau yn 2014-2015. 

Mae’r rhaglen yn cofnodi taldra a phwysau plant mewn dosbarthiadau Derbyn ledled Cymru. Mae adroddiad eleni’n cynnwys 28,512 o blant yn y canfyddiadau, sef 94.7 y cant o blant pedair a phump oed, a’r lefel cyfranogiad uchaf erioed. 

Roedd cyfran y plant sy’n byw gyda gordewdra yn 12.8 y cant, yn uwch na’r ffigurau a adroddwyd ar gyfer Lloegr (10.5 y cant) a’r Alban (11.8 y cant). Mae’r data hefyd yn tynnu sylw at gysylltiad clir ag amddifadedd gan fod cyfrannau gordewdra yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (15.6 y cant) tua 75 y cant yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (8.9 y cant). 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig