Mae addysg a gofal plentyndod cynnar yn rhoi budd triphlyg i gymdeithas

Mae ymgorffori addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) mewn polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys y potensial ar gyfer “budd triphlyg” o ddatblygiad cadarnhaol plant, grymuso menywod a thwf economaidd, fel y disgrifir mewn adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad, sy’n edrych ar brofiadau, polisïau, rhaglenni, a data o wledydd gwahanol, yn nodi y bydd gwneud y mwyaf o’r ffenestr hon o gyfle, pan fydd ymennydd plentyn yn datblygu ar raddfa gyflym, nid yn unig o fudd i iechyd hirdymor y plentyn unigol ond gall sicrhau manteision i’r gymdeithas ehangach hefyd.

Gan mai gofal di-dâl yw’r prif ffactor sy’n atal menywod rhag ymuno â’r gweithlu, mae cynyddu mynediad at ECEC yn un dull o wella cyflogaeth menywod ac iddynt deimlo’n fwy grymus.

Yn ei dro, mae’r adroddiad yn nodi bod gofal plant fforddiadwy o ansawdd yn cyfrannu at dwf economaidd, gydag amcangyfrifon yn dangos mwy o Gynnyrch Domestig Gros (GDP) gyda mwy o fenywod yn y gweithlu ac enillion o saith y cant ar fuddsoddiad i gymdeithas drwy fanteision gwell datblygiad plentyndod cynnar.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig