Gall Mabwysiadu Dull Iechyd Cyhoeddus o Gynorthwyo Rhieni Helpu i Roi’r Dechrau Gorau Posibl mewn Bywyd i Blant

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Raglen 1000 Diwrnod Cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgrifio sut y gall rhieni, cymunedau a’r gymdeithas ehangach weithio gyda’i gilydd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd theori, tystiolaeth ymchwil a mewnwelediad presennol o brofiad rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Mae’n amlygu’r rôl ganolog sydd gan rieni wrth lunio bywydau eu plant yn y 1000 diwrnod cyntaf a sut y mae gan gamau gweithredu i gynorthwyo rhieni i ffynnu yn eu rôl magu plant y potensial i dorri cylchoedd o anfantais rhwng y cenedlaethau a chynorthwyo llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae magu plant yn chwarae rôl allweddol wrth ddylanwadu ar lesiant plant heddiw ac yn y dyfodol ac mae’r adroddiad yn amlinellu dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni sy’n symud y ffocws o’r hyn y ‘dylai’ rhieni unigol ei wneud tuag at greu’r amodau i deuluoedd ffynnu. Mae’n amlygu sut y mae’r lleoedd y mae rhieni yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar sut y mae rhieni’n meddwl ac yn teimlo, a’r hyn y gallant ei wneud. Mae cymdeithas sy’n cefnogi magu plant yn cynnig gwaith teg; cartrefi sy’n ddiogel ac yn gynnes; trafnidiaeth fforddiadwy; cymunedau cryf; a mynediad hawdd at wasanaethau cefnogol pan fydd eu hangen.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig