Lleisiau Rhieni wrth Wraidd Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar newydd

Mae llawer o rieni yng Nghymru yn teimlo wedi’u llethu, yn ynysig, ac yn ansicr ynghylch ble i droi am gymorth yn ystod y blynyddoedd cynnar o fagu plentyn, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd: Mae’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, a gyhoeddwyd heddiw ochr yn ochr ag adroddiad Mewnwelediadau Rhieni, yn amlinellu dull newydd o wella cymorth i deuluoedd â babanod a phlant ifanc. Mae’n dwyn ynghyd arbenigedd gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a phrofiadau bywyd rhieni a gofalwyr i ddiffinio’r hyn mae’n ei olygu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru ac yn cynnig gweledigaeth glir, a rennir ar gyfer sut y gall system y blynyddoedd cynnar ei wireddu.  

Mae’r Fframwaith yn nodi’n glir elfennau allweddol system blynyddoedd cynnar effeithiol ac yn diffinio beth yw ‘da’ ym mhob maes. Gan weithredu fel canllaw, gall gefnogi sefydliadau, partneriaethau ac asiantaethau cenedlaethol i nodi, deall a blaenoriaethu’r camau gweithredu sydd eu hangen i adeiladu system blynyddoedd cynnar gryfach a mwy effeithiol ledled Cymru. Mae’n cydnabod bod gan bawb rôl i’w chwarae – o weithwyr proffesiynol a llunwyr polisi i gymunedau a theuluoedd eu hunain. Gydag ymrwymiad cyffredin i’w weithredu, gallai’r Fframwaith leihau anghydraddoldebau a helpu i drawsnewid nodau polisi uchelgeisiol Cymru yn welliannau ystyrlon a pharhaol i fabanod, plant ifanc a’u teuluoedd.  

Disgrifiodd rhieni a gyfrannodd at yr ymgysylltiad eu bod eisiau cyngor clir a chyson, a gwasanaethau sy’n teimlo’n gysylltiedig yn hytrach nag yn ddatgysylltiedig. Dywedodd llawer eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu beirniadu neu heb gefnogaeth wrth estyn allan am gymorth. Mae’r adroddiadau hefyd yn tynnu sylw at yr angen am wasanaethau mwy cydgysylltiedig, hygyrch a thosturiol sy’n rhoi teuluoedd wrth wraidd cymorth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig