Hyrwyddwyr dros Bobl Hŷn yn helpu i greu Cymru Oed-gyfeillgar

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bellach Hyrwyddwr dros Bobl Hŷn i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i greu Cymru Oed-gyfeillgar.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae pob awdurdod lleol yn cael ei gefnogi’n llawn i wireddu’r un genhadaeth genedlaethol i ddod yn Oed-gyfeillgar.oed

Bu’r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod â’r tîm Oed-gyfeillgar yng Nghyngor Abertawe, a’r cynghorydd etholedig sy’n gweithredu fel ei Hyrwyddwr Oed-gyfeillgar, ar daith gerdded i annog cymdeithasu ac i leihau unigrwydd i bobl hŷn yn y ddinas a’r ardal ehangach. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am bryderon a dyheadau pobl hŷn yn yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i gael swyddog ar waith a’i gefnogi wrth iddynt weithio tuag at ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig