Bydd brechlyn newydd i fabanod ac oedolion hŷn yng Nghymru yn achub bywydau
Mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn a thros 1,000 o dderbyniadau i’r ysbyty mewn babanod ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y rhaglen frechu RSV newydd yn amddiffyn rhag yr haint anadlol mwyaf cyffredin ymhlith plant am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus sy’n cylchredeg yn yr hydref a dechrau’r gaeaf, gan heintio’r rhan fwyaf o blant o fewn dwy flynedd gyntaf eu bywyd ac yn aml yn ailheintio plant hŷn ac oedolion.
Er ei fod yn feirws cyffredin, canfu arolwg diweddar Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus* gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o dros 1,000 o oedolion yng Nghymru fod dros 60 y cant wedi dweud nad oeddent wedi clywed am RSV, sy’n golygu nad yw mwyafrif y bobl yn ymwybodol o’r risg a berir i fabanod ac oedolion hŷn.
I’r rhan fwyaf o bobl, mae haint RSV yn achosi salwch anadlol is ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd, ond mae babanod o dan un oed a’r henoed yn wynebu risg uwch o salwch mwy difrifol a allai arwain at orfod mynd i’r ysbyty. Mae’r dystiolaeth yn dangos i ni bod y brechlyn yn ddiogel ac yn cynnig amddiffyniad rhagorol, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau gofal sylfaenol GIG Cymru yn ystod misoedd prysur y gaeaf.
Mae’r rhaglen ar gyfer oedolion sy’n cael eu pen-blwydd yn 75 oed ac i ddarpar famau yn ystod beichiogrwydd o 28 wythnos hyd at y cyfnod llawn. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad yn uniongyrchol, neu eu cyfeirio gan eu bydwraig yn ystod clinigau cyn geni, o heddiw ymlaen.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.