Cronfa adfer COVID gwerth £48miliwn i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi pecyn newydd gwerth £48 miliwn o gyllid i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid – £40 miliwn – wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol a chaiff ei ddefnyddio i helpu’r sector gofal cymdeithasol i ymateb i’r heriau parhaus a achosir gan y pandemig.

Bydd £8 miliwn arall yn ariannu nifer o flaenoriaethau penodol, gan gynnwys ymestyn y gronfa cymorth i ofalwyr; mynd i’r afael ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn; buddsoddi mewn lles y gweithlu gofal cymdeithasol ac mewn gwasanaethau preswyl i blant â phrofiad o fod mewn gofal.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig