Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net
Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.
Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’n hamgylchedd trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi.
Mae’r eitemau canlynol bellach wedi’u gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y wlad:
- Platiau plastig untro
- Cwpanau plastig untro
- Troellwyr diodydd plastig untro
- Cwpanau wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Cynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
- Ffyn balŵn plastig untro
- Ffyn cotwm coesyn plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro (eithriadau i’r rhai sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol)
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.