Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb
Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth iddo lansio’r Rhaglen Lywodraethu.
Mae’r cynllun pum mlynedd yn dangos sut y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cyflawni’r addewidion a gafodd eu gwneud i bleidleiswyr yn ystod etholiad Senedd 2021 ac yn nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu.
Bydd y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn ganolog i waith y llywodraeth newydd – mae “uwch-Weinyddiaeth” newydd wedi’i chreu sy’n dwyn ynghyd y meysydd polisi mawr i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged cyfreithiol rwymol o gyrraedd sero-net erbyn 2050.
Am y tro cyntaf, daw trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni – ynghyd â’r amgylchedd – o dan yr un fantell, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd hyn yn sicrhau bod newid hinsawdd ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnes sector preifat.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Byddwn yn adeiladu’r Gymru decach, wyrddach, gryfach a mwyfwy llwyddiannus yr ydym ni i gyd ei heisiau i’n hunain ac i’n gilydd. Ond rwy’n benderfynol, wrth inni symud Cymru ymlaen, na fydd neb yn cael ei adael ar ôl ac na fydd neb yn cael ei ddal yn ôl. Mae pobl yng Nghymru yn gofalu am ei gilydd, ac mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar yr union egwyddor honno. Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i symud Cymru ymlaen y tu hwnt i’r pandemig sydd wedi effeithio ar bob elfen o’n bywydau. Maen nhw’n canolbwyntio ar y meysydd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl a chymunedau. Byddwn yn helpu ein dysgwyr i ddal i fyny ac yn helpu pobl i gael swyddi newydd. Byddwn yn adfer capasiti yn y GIG ac yn helpu ein diwydiannau a’n busnesau i baratoi ar gyfer y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Mae’n gynllun tryloyw a chyraeddadwy ond mae’n cydnabod yr angen am weithredu radical a meddwl arloesol yn wyneb her na welwyd ei thebyg o’r blaen.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ymrwymiadau trawsbynciol ac amcanion llesiant Llywodraeth Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.