Ymgyrch Ymwybyddiaeth PrEP yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (THT) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o PrEP HIV yng Nghymru.

Mae PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad) yn gyffur sydd yn ddiogel ac yn effeithiol a phan fydd yn cael ei gymryd gan bobl HIV-negyddol cyn ac ar ôl rhyw, mae’n lleihau’r risg o gael HIV.

Mae’r ymgyrch yn cael ei anelu’n benodol at y grwpiau o bobl sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan HIV yng Nghymru, yn cynnwys dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, pobl Ddu Affricanaidd a phobl draws. Mae’r ymgyrch yn defnyddio hysbysebu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a’r Wyddgrug yn ogystal â sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig