Mae cyllid Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galluogi ehangu system tracio meddyginiaeth HIV PrEP, sef Preptrack, mewn sawl iaith gan gynnwys y Gymraeg

Mae cyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu bod ap sydd wedi ei gynllunio i helpu defnyddwyr PrEP i gymryd eu meddyginiaeth yn fwy effeithiol, bellach ar gael ar Android ac mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg.

Mae Preptrack yn ap am ddim yn y DU, sy’n ceisio cefnogi atal HIV drwy atgoffa defnyddwyr pan fydd angen iddynt gymryd eu meddyginiaeth PrEP – proffylacsis cyn-gysylltiad.

Mae proffylacsis cyn-gysylltiad yn feddyginiaeth gwrth-retrofiraol sydd, o’i ddefnyddio’n gywir, dros 99% yn effeithiol o ran atal trosglwyddo HIV yn rhywiol.  Fodd bynnag, er mwyn bod yn effeithiol, mae’n bwysig iawn bod y defnyddiwr yn cymryd y feddyginiaeth ar yr adeg iawn.  Mae Preptrack yn cynhyrchu amserlen ac yn creu nodiadau atgoffa i’r defnyddiwr pan fydd angen i’w ddos gael ei gymryd, yn ogystal â chyfeirio at wybodaeth a chanllawiau perthnasol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig