Profion iechyd rhywiol rheolaidd a manteisio ar frechlyn newydd yn cael eu hannog yn dilyn adroddiad newydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i beidio â mynd yn ddifater ynglŷn â’u hiechyd rhywiol drwy ymarfer rhyw diogel, cael profion rheolaidd ac i fanteisio ar frechlyn newydd.
Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol am dueddiadau rhywiol yng Nghymru yn atgoffa pawb sy’n weithgar yn rhywiol (yn enwedig y rhai sydd â phartneriaid newydd neu nifer o bartneriaid) i ymarfer rhyw diogel. Mae condomau yn parhau i fod yn amddiffyniad hanfodol yn erbyn haint, ac mae profi am Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) o leiaf unwaith y flwyddyn yn hanfodol ar gyfer atal a diagnosis cynnar.
Ers ei gyflwyno yn 2020, mae’r gwasanaeth Profi a Phostio yn cyfrif am hanner yr holl brofion STI yng Nghymru. Mae’r pecynnau cyfrinachol hyn yn caniatáu i unigolion gymryd camau rhagweithiol wrth reoli eu hiechyd rhywiol ac atal lledaeniad heintiau trwy brofi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol o breifatrwydd eu cartrefi. I archebu eich pecyn, ewch i www.shwales.online neu gallwch gasglu pecyn o’ch lleoliad cymunedol lleol.
Bydd brechlyn newydd i dargedu gonoroea yn cael ei gyflwyno gan y GIG ar draws y Deyrnas Unedig ym mis Awst 2025, Bydd hyn yn golygu mai gwledydd y DU yw’r cyntaf yn y byd i gynnig rhaglen o’r fath. Mae’r brechlyn yn cyrraedd ynghanol pryderon ynghylch ymwrthedd i wrthfiotigau.
Mae’r data diweddaraf yn dangos gostyngiad o 40 y cant mewn achosion o gonoroea yng Nghymru y llynedd. Ac eto, mae’r gostyngiad yn dilyn cynnydd o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’r haint yn parhau ar lefelau hanesyddol o uchel. Mae gonoroea yn drosglwyddadwy iawn gan nad oes symptomau yn aml, felly mae cymryd y brechlyn newydd a chael profion rheolaidd am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn hanfodol.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod achosion o glamydia wedi gostwng 16 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae’n parhau i fod y STI bacteriol sy’n cael ei ddiagnosio amlaf yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 15–24 oed.
Er bod gostyngiad mewn diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ymddangos yn gadarnhaol, gall adlewyrchu newidiadau mewn patrymau profi yn hytrach na gostyngiad gwirioneddol mewn trosglwyddiad. Mae pryderon yn parhau ynghylch y gyfradd uchel o ail-heintiadau a chyd-heintiadau, sy’n dynodi ymddygiadau risg parhaus a than-ddiagnosis.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.