Ymgyrch Ymwybyddiaeth PrEP yng Nghymru
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (THT) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o PrEP HIV yng Nghymru.
Mae PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad) yn gyffur sydd yn ddiogel ac yn effeithiol a phan fydd yn cael ei gymryd gan bobl HIV-negyddol cyn ac ar ôl rhyw, mae’n lleihau’r risg o gael HIV.
Mae’r ymgyrch yn cael ei anelu’n benodol at y grwpiau o bobl sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan HIV yng Nghymru, yn cynnwys dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, pobl Ddu Affricanaidd a phobl draws. Mae’r ymgyrch yn defnyddio hysbysebu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a’r Wyddgrug yn ogystal â sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.